Hen wlad fy nhadau
Mae hen wlad fy nhadau yn
anwyl i mi,
Gwlad beirdd a chantorion, enwogion o fri;
Ei gwrol rhyfelwyr, gwlad garwyr tra mad,
Tros ryddid collasant eu gwaed.
Chorus:
Gwlad, gwlad, pleidiol wyf i'm gwlad,
Tra mor yn fur
I'r bur hoff bau,
O bydded i'r heniaith barhau.
2. Hen Gymru fynyddig,
paradwys y bardd,
Pob dyffryn, pob clogwyn, i'm golwg sydd hardd;
Trwy deimlad gwladgarol, mor swynol yw si
Ei nentydd, afonydd, i mi.
Chorus:
3. Os treisiodd y gelyn
fy ngwlad dan ei droed,
Mae hen iaith y Cymry mor fyw ag erioed,
Ni luddiwyd yr awen gan erchyll law brad,
Na thelyn berseiniol fy ngwlad.
Chorus: